Y Feithrinfa
- Meithrinfa Gymraeg ydym, gyda chymorth i deuluoedd i ddysgu'r iaith mewn awyrgylch naturiol
- Mae yna ddigon o le yn yr adeilad gyda chyfleusterau awyr agored da
- Mae'n hawdd dod o hyd i ni ar yr A40 rhwng Llandeilo a Llanymddyfri, gyda lle parcio diogel oddi ar y ffordd fawr
- Cynigir gwasanaeth casglu o ysgolion Llandeilo a Llangadog
- Cynigir gwasanaeth casglu o Landeilo yn y boreau
- Paratoir prydau bwyd cartref cynnes ac iachus ar y lle
- Anogir teuluoedd i ddod yn rhan o’r feithrinfa pob cyfle posib trwy’r digwyddiadau a drefnir i deuluoedd
Ein Hathroniaeth
Credwn fod gofal o safon ac addysg yn mynd law yn llaw, gan feithrin chwilfrydedd a dychymyg ac ysbrydoli plant i ddysgu.
'DYSGU CHWARAE - CHWARAE I DDYSGU'
Cyflawnir hyn trwy ddatblygu amgylchedd dysgu yn seiliedig ar gyfleoedd i chwarae, cyfleoedd sy'n galluogi'r plentyn i ddewis pa weithgaredd yr hoffai wneud, y plentyn felly yw'r canolbwynt