
Mrs Caryl Thomas
Rheolwr Gyfarwyddwr
Gofal Plant o Safon
Meithrinfa gofal dydd preifat teuluol yw Twts Tywi, a reolir gan Caryl Thomas, sy'n meddu ar radd BA mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar a chanddi fwy na 10 mlynedd o brofiad mewn gofal plant. Ar hyn o bryd mae Caryl yn astudio am Radd Meistr mewn Blynyddoedd Cynnar er mwyn sicrhau bod Twts Tywi yn gweithredu'r datblygiadau a'r mentrau diweddaraf, ac yn cynnig gofal o'r safon gorau ac amgylchedd dysgu cyfoethog i blant.
Mae'r holl aelodau staff yn cymwys ac yn hynod brofiadol. Bydd ein rhaglenni sydd wedi'u datblygu'n ofalus yn caniatáu i'ch plentyn dyfu'n gymdeithasol ac emosiynol yn ogystal ag yn gorfforol a deallusol. Mae'r staff a'r rheolwyr fel ei gilydd yn ymroddedig i ddatblygiad y "plentyn cyfan".
Gweithgareddau a Gynigir
Rydym yn gwneud ein gorau glas i gwrdd ag anghenion pob plentyn unigol sy'n mynychu'r feithrinfa trwy ddilyn gweithgareddau strwythuredig a hefyd rhai sydd heb eu strwythuro, a hynny trwy weithredu'r 'Birth to Three Matters Framework' a'r "Cyfnod Sylfaen". Mae'r ddau hyn yn cynnig cwricwlwm eang a chytbwys er mwyn cynnal datblygiad corfforol, emosiynol, cymdeithasol a deallusol pob plentyn.
Ein nod yw cynnig amrywiaeth eang o brofiadau dysgu cyfoethog, er mwyn ysgogi'r meddyliau chwilfrydig i ddatblygu cariad gydol oes at ddysgu, ac i arfogi plant gyda'r sgiliau bywyd angenrheidiol. Dysgu trwy chwarae a hyrwyddir gan ein staff aeddfed a phrofiadol a chynigir amrywiaeth eang o weithgareddau sy'n addas i oed y plant er mwyn cwrdd ag anghenion a diddordebau'r plant sydd yn ein gofal. Mae dilyn fframwaith yn rhoi strwythur a dilyniant i'r rheini sy'n gofalu am y plant, gyda chanllawiau i ymestyn dysgu'r plentyn, gan gynnwys holl feysydd eu datblygiad a hynny trwy brofiadau chwarae.
I'r plant ieuengaf ein pwyslais yw cynnig cyfleoedd iddynt ddarganfod a phrofi trwy ddefnyddio'u synhwyrau, ac er mwyn annog hyn mae gennym gornel du a gwyn, sy'n cynnwys chwarae hewristig a basgedi trysor. Mae basged drysor syml yn rhoi'r cyfle i blant ifanc ddarganfod pethau eu hunain i'w hunain a hynny mewn amgylchedd diogel ac ysgogol.