Cyfleusterau
Yr Adeilad
Dewiswyd yr adeilad yn ofalus oherwydd ei leoliad a'i faint. Cynlluniwyd yr adeilad er mwyn cynnig amgylchedd cartrefol a chroesawgar i blant ifanc, er mwyn cael ymdeimlad o gartref.
Rhennir y plant yn dri grŵp oedran yn unol â'u hanghenion, canllaw yn unig yw hyn ac rydym yn hyblyg o ran pryd y gall plentyn symud ymlaen i'r grŵp oed nesaf. Sicrheir y nifer cywir o blant i bob oedolyn yn yr uned, fel y noder gan y CSSIW. Mae'r gwahanol ardaloedd wedi'u dylunio i fod yn addas i'r grŵp oed perthnasol ac yn cynnwys:


Llawr Cyntaf
Ceir dwy ardal ar y llawr hwn, ardal y babanod i blant rhwng 6 wythnos a blwydd oed ac ardal gropian i fabanod rhwng 1 a 2 flwydd oed. Ceir pob dim sydd ei angen yn yr ardal hon o le paratoi llaeth, cyfleusterau newid cewynnau ac ardal dawel a leolir i ffwrdd oddi wrth y man chwarae eang. Mae yna ymdeimlad cyfeillgar a chartrefol i'r ardal hon.
Yn ddibynnol ar eu hanghenion datblygiadol, mae yna ddigon o le i fabanod gropian a darganfod mewn amgylchedd tawel ond symbylol.
Llawr Gwaelod
Ystafell ddarganfod - Mae plant bach wrth eu boddau'n darganfod y byd o'u cwmpas gyda chwilfrydedd a diddordeb. Bydd yr uned hon sydd wedi'i dylunio i annog datblygiad plentyn yn cynnig sylfaen gadarn i adeiladu arni. Mae'r ardal hon yn un eang ac agored, lle gall plant fwynhau amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau fydd yn datblygu eu hannibyniaeth, dychymyg, creadigrwydd a sgiliau cymdeithasol.
Mae'r llawr gwaelod yn rhoi'r cyfle i blant gael mwynhau llawer o weithgareddau cyffrous yn cynnwys crefft, tywod a dŵr, chwarae creadigol, adeiladu a chornel cartref. Mae yna ardal gyfforddus sy'n ddelfrydol i gymryd hoe a chysgu a darllen stori'n dawel.


Ardal Awyr Agored
Un fantais fawr i'r feithrinfa hon yw'r ardal awyr agored sy'n ddiogel a chyffrous, gyda drysau dwbl yn agor allan i ardd eang, gan ganiatáu plant hŷn fynd allan i'r ardal hon unrhyw bryd yn ystod y dydd. Anogir plant i ddysgu am natur trwy fynd am deithiau natur, a thrwy dyfu cynnyrch yn yr ardd.
Yn ogystal bydd y plant yn cael mynd ar dripiau o amgylch y gymuned leol fydd yn eu helwa o ran tyfiant a datblygiad.