Croeso i Feithrinfa Twts Tywi
Mae meithrinfa Twts Tywi yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau a hynny mewn amgylchedd “cartrefol”. Trwy gynnig awyrgylch gynnes a gofalgar, rydym yn gweithio'n agos gyda rhieni er mwyn gwneud yn siŵr bod ein meithrinfa yn estyniad o'r cartref cariadus a roddir gennych chi fel rhieni. Gyda'n gilydd medrwn gynnig cyfleoedd a phrofiadau cyffrous llawn hwyl fydd yn meithrin datblygiad eich plentyn, gan ei annog i fod yn unigolyn annibynnol, hyderus, hapus a chytbwys.

Byddwn yn gwneud yn siŵr fod pob plentyn yn cael y cyfle i ddysgu trwy gael profiadau chwarae o ansawdd uchel a byddwn yn clustnodi gweithiwr i fod yn gwmni i'ch plentyn trwy gydol ei amser gyda ni.